Mae’r canllaw hwn yn trafod y canlynol:
- Osgoi gwallau posibl drwy sicrhau nad yw cwcis wedi’u blocio
- Darllenydd Dienw
- Creu cyfrif Kortext
- Cael mynediad at gyfrif sydd eisoes yn bodoli
- Defnyddwyr presennol Kortext
- Sut i ganfod eich ffordd o gwmpas y darllenydd myfyriwr
- Nodweddion uwch
Sicrhau nad yw cwcis wedi’u blocio
Os na allwch gael mynediad at y sgan a bod gennych neges aros Kortext neu sgrin wag yn unig, gwnewch yn siŵr nad yw eich Cwcis yn cael eu blocio. Os nad yw hyn yn datrys y mater, cysylltwch â ni ar support@cla.zendesk.com neu, os ydych yn fyfyriwr neu'n ddarlithydd, cysylltwch â'ch llyfrgell neu’r Tîm Digideiddio.
Darllenydd Dienw
Ar ôl mewngofnodi, cewch eich tywys at y darllenydd dienw. Mae'r darllenydd hwn yn caniatáu i chi ddarllen, argraffu, lawrlwytho i PDF, chwilio a chwilio'r we.
Bydd y darllenydd hwn yn defnyddio'ch manylion mewngofnodi sengl ac yn mynd â chi'n uniongyrchol i'r darn gyda'ch dilysiad Shibboleth, Athens neu EZproxy, neu IP ar gyfer y rhai sydd ag ystod IP y sefydliad.
Fodd bynnag, ni fydd y darllenydd dienw hwn yn gwybod pwy ydych chi, fel defnyddiwr unigol. Felly, i ddefnyddio unrhyw un o'r nodweddion uwch, gan gynnwys: amlygu, rhoi nod tudalen, cymryd nodiadau, allforio cyfeiriadau, ac i'r darllenydd gofio eich tudalen at y tro nesaf, bydd angen i chi greu cyfrif am ddim i fewngofnodi.
Creu cyfrif Kortext
I greu cyfrif, ychwanegwch y manylion yn ôl y cyfarwyddiadau. Os oes gennych gyfrif Kortext yn barod, cliciwch i fewngofnodi yn lle hynny.
Gallwch gadw eich manylion mewngofnodi gyda chwcis eich porwr er mwyn eu cofio at y tro nesaf a gwneud mewngofnodi yn haws.
Ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n defnyddio dilysiad â llaw DCS, byddwch yn mewngofnodi i'r darllenydd uwch yn awtomatig, gan fod CLA eisoes yn ymwybodol o fewngofnodi unigol.
Sylwch: mae nodweddion uwch yn gofyn am gynnwys OCR, chwiliwch neu copïwch destun yn y darllenydd dienw i weld a yw wedi'i alluogi gan OCR yn y ffynhonnell. Mae hyn yn cael ei bennu gan sgan gwreiddiol y deunydd.
Cael mynediad at gyfrif sydd eisoes yn bodoli
Bydd angen i chi fewngofnodi i'r darllenydd bob tro byddwch chi'n clicio ar ddolen newydd, os ydych chi'n dymuno defnyddio nodweddion uwch. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn yr adran uchod, gellir defnyddio cwcis i gofio eich manylion ac rydym yn awgrymu bod y rhain yn cael eu defnyddio i wneud mewngofnodi’n haws.
Gallwch fewngofnodi yn ôl i mewn drwy ddefnyddio'r opsiwn Sign in to Kortext'.
Neu, wrth geisio defnyddio nodweddion uwch, byddwch yn gweld yr un opsiwn â’r adeg y gwnaethoch sefydlu eich cyfrif, a bydd angen clicio ar yr un eicon â’r adeg y gwnaethoch gofrestru.
Bydd yr opsiwn 'Remember Me' yn storio enwau defnyddwyr a chyfrineiriau os nad yw eich Porwr yn cefnogi hyn eisoes (bydd y mwyafrif o borwyr yn cefnogi’r broses o storio cyfrineiriau yn awtomatig).
Defnyddwyr Presennol Kortext
Gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif Kortext presennol os ydych chi'n defnyddio'r platfform Kortext.
Ni fydd hyn yn digwydd yn awtomatig, gan nad yw'r darllenydd dienw yn ymwybodol o fanylion eich cyfrif.
Cliciwch 'Sign in to Kortext' a mewngofnodwch (gadewch i’ch Porwr storio eich manylion neu cliciwch 'Remember Me').
Gallwch nawr weld eich dyfydniadau ar un tab a’ch eLyfrau ar un arall yn eich cyfrif Kortext.
Os nad ydych chi'n gwybod eich manylion mewngofnodi, ond bod gennych gyfrif Kortext (fel arfer fe'ch cymerir yn uniongyrchol i'ch cyfrif trwy gymwysterau dilysu eich sefydliad), cliciwch 'Forgotten Password’ ar y dudalen 'Sign in', yna teipiwch eich e-bost sefydliadol. Bydd Kortext yn e-bostio dolen atoch fel y gallwch ailosod eich cyfrinair i fewngofnodi’n uniongyrchol ar gyfer y dolenni DCS, a gallwch ddilyn y camau uchod i arbed hwn i'ch cwcis i'w ddefnyddio ar gyfer dolenni yn y dyfodol.
Canfod eich ffordd o gwmpas
Tudalen gyntaf y darn PDF yw'r Hysbysiad Hawlfraint. Yna gallwch fynd drwy’r darn trwy naill ai ddefnyddio'r bariau sy'n ymddangos ar waelod y darn, neu’r eiconau saeth ar eich bysellfwrdd. Gallwch hefyd fynd i dudalen benodol trwy deipio rhif tudalen i'r blwch gwyn wrth ymyl y saethau.
Mae hefyd yn bosibl ffitio'r dudalen yn ôl uchder, trwy glicio ar yr eicon saeth fertigol, dyma'r gosodiad cychwynnol hefyd. Gallwch hefyd ffitio'r dudalen yn ôl lled trwy bwyso'r saethau llorweddol. Gellir dod o hyd i'r saethau hyn wrth ymyl y llyw-wyr tudalennau yn y gornel dde uchaf.
Gallwch hefyd chwyddo i mewn yn agosach at y darn trwy glicio ar yr eicon '+' mewn chwyddwydr a chwyddo allan trwy glicio ar yr eicon '-'. Trwy bwyso'r pedair saeth, byddwch chi'n gwneud y darn yn sgrin lawn, pwyswch yr allwedd ‘escape’ i fynd o hyn.
Yn y tab gosodiadau, mae’n bosibl newid yr iaith rhwng Cymraeg a Saesneg, i’n myfyrwyr Cymraeg gael yr holl gyfarwyddiadau yn Gymraeg.
Mae’n bosibl argraffu’r PDF, naill ai fel rhifau tudalen penodol, neu fe allwch ddewis ‘Print All Pages’ i argraffu’r ddogfen gyfan, a fydd yn agor opsiynau argraffu eich porwr.
Mae hefyd yn bosibl lawrlwytho i PDF ar yr eicon nesaf uchod, i fyfyrwyr ei lawrlwytho.
Mae agweddau nesaf y darllenydd yn mynnu bod y darn yn OCR, felly cofiwch gadw hyn mewn cof os na allwch amlygu neu chwilio. Mae sganiau OCR yn cael eu rheoli'n ganolog yn eich sefydliad a dylid eu codi trwy eich darlithydd / Timau Digideiddio Llyfrgell.
Swyddogaeth chwilio yw'r elfen nesaf sydd ar gael yn y darllenydd myfyriwr, wedi'i siapio fel chwyddwydr ac ar ochr chwith y sgrin. Ar ôl clicio arni, byddwch yn gallu chwilio am ymadroddion penodol drwy’r darn.
Gallwch hefyd amlygu geiriau neu ymadroddion allweddol ac yna chwilio’r we mewn tab newydd, drwy chwilio ar Google.
Nodweddion Uwch
Mae sawl nodwedd sy’n gofyn i chi fewngofnodi i chi gael mynediad atynt.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Amlygu
Gallwch amlygu rhannau gydag amrywiaeth o liwiau. Bydd y rhain yn cael eu cofio pan fyddwch yn dychwelyd i’r ddogfen.
Creu Nodyn
Ar ôl amlygu testun, gallwch hefyd greu nodyn. Gellir amlygu hwn hefyd, a rhannu eich nodyn ar e-bost neu eich One Drive. Rhaid i chi glicio 'Save' i’w gadw.
Allforio Darn
Gallwch hefyd allforio darn i Refworks neu Endnote. Mae hwn hefyd ar gael o dan yr opsiynau amlygu yn ogystal ag ar far dewislen yr ochr chwith.
Creu nod tudalen
Gallwch greu nod tudalen ar dudalen drwy ddefnyddio'r symbol nod tudalen ar y llithrydd ar waelod y dudalen. Bydd yr eicon yn newid o glir / gwyn i borffor pan fydd nod tudalen ar y dudalen.
Gallwch ddod o hyd i nodau tudalen blaenorol ar y tab nod tudalen i’w gweld ar unrhyw adeg. Bydd y llithrydd hefyd yn rhoi'r opsiwn i chi ddychwelyd i'ch tudalen nod mwyaf diweddar.
Y nodwedd uwch olaf yn y porwr yw'r symlaf. Bydd y Darllenydd yn cofio lle y gwnaethoch roi’r gorau i ddarllen a gadael i chi barhau i ddarllen o’r man hwnnw, yn lle eich bod yn gorfod dod o hyd i'ch tudalen.
Comments
0 comments
Please sign in to leave a comment.